Manylion Am Gwcis ar Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau
Mae’r Comisiwn Elusennau’n defnyddio ‘cwcis’ i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Dysgwch fwy am y cwcis rydym yn eu defnyddio, beth yw eu diben a phryd maent yn dod i ben.
Rydym yn defnyddio dau fath o gwci:
- Cwcis sy’n mesur defnydd gwefan
- Cwcis sy’n hollol angenrheidiol
Mae pob cwci yn:
- gwci sesiwn, mae’r math hwn o gwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr, neu
- cwci parhaus, mae'r math hwn o gwci yn para'n hirach ac yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol o amser
Cwcis sy'n Mesur Defnydd Gwefan
Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics (Universal Analytics) i gasglu gwybodaeth ddienw am sut rydych yn defnyddio Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Rydym yn gwneud hyn i helpu sicrhau bod ein gwasanaethau a’n gwefan yn bodloni anghenion eu defnyddwyr ac i'n helpu i wneud gwelliannau.
Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu'r data am sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau gyda thrydydd partïon
Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am:
- y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw
- faint o amser rydych chi'n ei dreulio ar bob tudalen
- sut wnaethoch chi gyrraedd y gwasanaeth
- beth rydych chi'n ei glicio tra byddwch yn ymweld â'r safle a/neu'n defnyddio'r gwasanaeth
- pa ddolenni rydych yn eu hagor mewn e-byst gennym ni
Mae'r data rydym yn ei gasglu ar ymddygiad defnyddwyr yn cael ei ddefnyddio gennym ni i wella ein gwasanaethau. Er enghraifft, fel eu bod yn hawdd eu deall, yn hygyrch ac yn cyflawni eu swyddogaeth. Rydym yn cadw’r data am hyd at 2 flwyddyn i’r diben hwn. Mae’r cyfnod hwn yn rhedeg o’r pwynt olaf pan gyrchwyd y dudalen we. Nid oes unrhyw ddata o gwcis a allai eich adnabod, megis cyfeiriadau IP, yn cael eu casglu gan Gomisiwn Elusennau Lloegr a Chymru.
Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol.
Enw | Pwrpas | Dod i Ben |
---|---|---|
_gid |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr mewn gweithgaredd pori |
24 awr |
_ga |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr mewn gweithgaredd pori |
2 flynedd |
_gat |
cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau |
1 munud |
_gat_UA |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau |
1 munud |
Yn ogystal, os ydych yn rhannu dolen i dudalen ar ein gwasanaethau, efallai y bydd y gwasanaeth rydych yn ei rannu arno (er enghraifft, Facebook) yn gosod cwci. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gwcis a osodir gan wefannau eraill - efallai y gallwch eu diffodd, ond nid trwyddom ni.
Cwcis Hollol Angenrheidiol
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd megis diogelwch, rheoli rhwydwaith, a hygyrchedd Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Rydym yn defnyddio'r cwcis angenrheidiol canlynol:
Enw | Pwrpas | Dod i Ben |
---|---|---|
GUEST_LANGUAGE_ID |
Mae hwn yn gosod yr iaith rydych yn edrych ar y wefan ynddi (Cymraeg neu Saesneg) |
1 flwyddyn |
LFR_SESSION_STATE_20105 |
Cwci sesiwn defnyddiwr yw hwn, lle mai XXXXX yw'r ID defnyddiwr. Fe ddefnyddir ar gyfer adnabod sesiynau defnyddwyr, dilysu defnyddwyr, cofio dewis iaith y defnyddiwr, ac ar gyfer rheoli sesiynau defnyddwyr. |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
JSESSIONID |
Defnyddir i gynnal sesiwn defnyddiwr dienw gan y gweinydd. |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
ApplicationGatewayAffinity |
ApplicationGatewayAffinity Defnyddir ar gyfer cynnal sesiynau defnyddwyr. Mae'r cwci hwn yn cael ei osod gan y wefan hon gan ei fod yn rhedeg ar lwyfan cwmwl Windows Azure. Mae'n galluogi traffig porwr gwe i gael ei gadw wedi'i neilltuo i weinydd sengl yn ystod rhai adrannau o'r wefan. |
Pan fyddwch yn cau'ch porwr |
ApplicationGatewayAffinityCORS |
Defnyddir y cwci hwn gan Borth Application Windows Azure yn ogystal â ApplicationGatewayAffinity i gynnal sesiwn gludiog hyd yn oed ar geisiadau traws-darddiad (gwybodaeth a dderbyniwyd o adnodd ag enw parth gwahanol). |
Pan fyddwch yn cau'ch porwr |
COMPANY_ID |
Defnyddir hwn gan lwyfan gwe Liferay. Fe ddefnyddir i'ch adnabod wrth i chi symud rhwng gwahanol dudalennau'r wefan fel nad oes angen i chi fewngofnodi bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd. |
Pan fyddwch yn cau'ch porwr |
ID |
Defnyddir hwn gan lwyfan gwe Liferay. Fe ddefnyddir i'ch adnabod wrth i chi symud rhwng gwahanol dudalennau'r wefan fel nad oes angen i chi fewngofnodi bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd. |
Pan fyddwch yn cau'ch porwr |
Neges cwcis
Efallai y gwelwch faner pan fyddwch yn ymweld â Chyfrif Fy Nghomisiwn Elusennau yn eich gwahodd i dderbyn cwcis neu adolygu eich gosodiadau. Byddwn yn gosod cwcis fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi’i weld ac i beidio â'i ddangos eto, a hefyd i storio eich gosodiadau.
Enw | Pwrpas | Dod i ben |
---|---|---|
CWCI_SUPPORT |
Mae hwn yn storio'r dewisiadau a ddewiswch yn ystod pori'r we |
1 blwyddyn |
cwci_consent |
TMae hyn yn arbed eich gosodiadau caniatâd cwci |
1 blwyddyn |
Cwcis a gesglir gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth
Mae gwefan GOV.UK, y mae Gwasanaethau Digdiol y Llywodraeth (GDS) yn gyfrifol amdano, yn lletya holl gynnwys a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau ac mae hefyd yn defnyddio meddalwedd Google Analytics. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar y data a gesglir gan GDS yn eupolisi cwcis..
Dysgwch fwy am wybodaeth preifatrwydd gan Google Analytics.
Dysgwch fwy gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am sut i reoli cwcis..
Newid eich gosodiadau
Dywedwch wrthym os ydych yn derbyn cwcis
Rydym yn defnyddio cwcisi gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio eich Cyfrif Comisiwn Elusennau, megis tudalennau rydych yn ymweld â nhw.
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddeall yn well sut rydych yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn wella eich profiad defnyddiwr a chyflwyno cynnwys mwy perthnasol.